Roedd asesiad pellach yn dangos bod modd cludo’r pŵer sy’n cael ei gynhyrchu o Barc Ynni arfaethedig Nant Mithil ar gylched 132kV sengl cyn belled â Bryn Aberedw (tua 11.3km), lle gall gorsaf newid ar droed y bryn ei throsglwyddo i gylched ddwbl peilonau dur. Gellir cynnal y cylched 132kV sengl rhwng Parc Ynni Nant Mithil a Bryn Aberedw ar bolion pren, sy’n golygu nad oes angen peilonau dur ar y rhan hon o’r llwybr.
Gall yr orsaf newid hefyd ddarparu ynni o Barciau Ynni arfaethedig Aberedw a Bryn Gilwern, sydd ar gam cynharach yn eu datblygiad. Byddai’r rhain hefyd yn gallu cysylltu â’r orsaf newid gan ddefnyddio cylchedau 132kV sengl, sy’n debygol o gael eu cynnal ar bolion pren.
Byddai lleoli’r orsaf newid ar droed Bryn Aberedw yn caniatáu i’r tri pharc ynni arfaethedig gysylltu ar yr un pwynt, gan leihau’r angen am seilwaith ychwanegol a fyddai wedi bod yn angenrheidiol pe baent yn cysylltu â’r rhwydwaith mewn gwahanol leoedd.
Mae’r llwybr arfaethedig wedi cael ei symud ymhellach i ffwrdd o Bontffranc nag a gynhigiwyd yn wreiddiol, i gynyddu’r pellter o’r pentref.